Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
8 Ebrill 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6288
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Croesawodd
y Llywydd yr Aelodau i’r Cyfarfod Llawn rhithwir a dywedodd
fod y Cyfarfod Llawn hwn, a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol
â Rheolau Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gyfystyr
â thrafodion y Cynulliad at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru
2006.
Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys - nodwyd pob un ohonynt ar yr agenda.
Dywedodd y
Llywydd fod y cyhoedd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, wedi
cael eu gwahardd rhag mynychu'r Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n
ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond byddai'r cyfarfod
yn cael ei ddarlledu'n fyw a byddai cofnod o'r trafodion yn cael ei
gyhoeddi yn y ffordd arferol.
Cafodd yr
Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd y byddai Rheolau Sefydlog
yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y Cyfarfod Llawn
yn gymwys i'r cyfarfod hwn.
Dechreuodd yr eitem am 13.33
Dechreuodd yr eitem am 13.33
Dechreuodd yr eitem am
14.52
Am 16.00 gohiriwyd y cyfarfod am 15 munud.
Dechreuodd yr eitem am 16.15
Dyfarniad y Llywydd
16.22 - Yn unol â Rheol Sefydlog 13.11, dywedodd y Llywydd ei bod yn ofynnol Neil McEvoy ymneilltuo o drafodion y Cynulliad
Gohiriwyd pleidlais ar y cynigion o dan eitemau 4 a 5 tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7307 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)
Cafodd y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol eu gosod gerbron y Cynulliad ar 18 Tachwedd 2019;
Cafodd adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) ei osod gerbron y Cynulliad ar 13 Mawrth 2020.
NDM7308 - Rebecca Evans (Gŵyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy'n deillio o'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o fath y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy'n codi o ganlyniad i'r Bil.
Fel y nodir ar yr Agenda, cynhelir pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.
Enwebodd pob grŵp gwleidyddol un Aelod o'r grŵp neu'r grwpiad i gario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd â rôl weithredol, bydd yr enwebai yn cario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp hwnnw ynghyd ag unrhyw aelodau eraill o'r llywodraeth. Roedd aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain.
Cynhaliwyd y pleidleisiau trwy alw'r gofrestr.
Gan fod y Cynulliad wedi cytuno i grwpio'r cynigion ar Egwyddorion Cyffredinol a Phenderfyniad Ariannol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) ar gyfer pleidleisio, cafwyd un bleidlais fel a ganlyn.
Canlyniad y bleidlais ar y cynigion oedd:
O blaid: |
Yn ymatal |
Yn erbyn: |
Cyfanswm |
30 |
0 |
25 |
55 |
Derbyniwyd y cynigion.
Dechreuodd yr eitem am 17.30
Daeth y cyfarfod i ben am 17.32
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 22 Ebrill 2020